Loading Digwyddiadau
  • This event has passed.

MAGIC BUTTERFLY

Welsh National Opera

Ewch i hol eich penwisg realaeth rith a chamwch mewn i ddau gynhyrchiad clasurol Opera Cenedlaethol Cymru.

Dewch i fod ymysg y bobl gyntaf i gymryd rhan yn y digwyddiad arloesol hwn sy’n eich cludo i fyd arall lle daw goreuon WNO i fyw gan ddefnyddio profiad rhith. Profwch ddofi llew fel Tamino o The Magic Flute a chewch eich syfrdanu gyda pherfformiad ecsgliwsif o One Fine Day o Madam Butterfly.

Yn agor ym mis Gorffennaf 2017, mae Magic Butterfly yn brofiad realaeth rhith (VR) gan REWIND ac Opera Cenedlaethol Cymru, a noddwyd gan ABP South Wales.

Bydd y profiad rhad ac am ddim yma yn cynnwys recordiadau gwreiddiol WNO, a bydd y cyflwyniad yn gydymaith perffaith os ydych chi’n newydd i fyd opera, neu’n anghyfarwydd ag o.

 

Bydd Magic Butterfly yn agor ar ddydd Gwener, 15, dydd Sadwrn, 16 a dydd Sul, 17 Medi rhwng 10:00am a 12:30pm a rhwng 2:30pm a 5:00pm.

 

Hyd: 8 munud

Addas ar gyfer: pob oedran

https://www.wno.org.uk/virtualreality

Manylion

Trefnydd

Welsh National Opera