Loading Digwyddiadau
  • This event has passed.

SYNTHFFONIA CYMRU

Sweet Baboo

Mae Sweet Baboo yn falch o gyflwyno ail berfformiad ensemble synth blaenllaw Cymru, Synthffonia Cymru, yn LLAWN05.

 

Yn seiliedig ar y thema I See a Creature, mae Synthffonia Cymru yn eich gwahodd i ddringo Mynydd Synthia a chanfod yr Anghenfil Cerddorol sy’n byw ar y copa. Turiwch i’w berfedd a chanfod eich rhuadau rhithleisiol, eich arferion cyweiriedig, tonfeddi tymhestlog, cyfresi o arpeggios cynddeiriog a chynddaredd herfeiddiol hidledig yn y perfformiad unigryw hwn, a gomisiynwyd yn arbennig gan LLAWN05.

 

Mae hwn yn berfformiad ar y cyd gan yr ensemble a’r gynulleidfa. Nid oes angen unrhyw hyfforddiant gerddorol ffurfiol. Peidiwch â chynhyrfu – dewch draw, plygiwch eich hun i mewn ac i ffwrdd â ni.

 

Sefydlwyd Synthffonia Cymru yn 2016 gan grŵp o academyddion a chefnogwyr synthffonig a oedd yn rhannu’r un syniadau ac a oedd wedi digalonni o weld natur geidwadol y sîn Synthffonig yng Nghymru.

 

Bydd Synthffonia Cymru yn cychwyn tua 10:00pm ar ddydd Gwener, 15 Medi yn y Tabernacl.

 

‘Like the legendary Portsmouth Sinfonia gone electric.’  C. Heinz. (arloeswr ‘concrete music’)

 

‘They [Synthfonia Cymru] took me on a journey out to sea, threw me overboard and left me to Synth or Swim, an unforgettable evening’ (Adolygiad Cylchgronau Sampler 2016)

 

Addas ar gyfer : Pob oedran

Hyd: Tua 45 munud

http://www.sweetbaboo.co.uk/

Manylion

Trefnydd

Sweet Baboo