Loading Digwyddiadau
  • This event has passed.

Tonight

Mostyn with Gwyn Williams

Digwyddiad Navigation

Prosiect  gyda’r nos  yw ‘T O N I G H T’ a fydd yn cael ei gynnal ar ffenestri ffasâd adeilad MOSTYN yn ystod LLAWN, gan ddod â blaen yr adeilad yn fyw pan fydd yn tywyllu. Cynlluniwyd y prosiect i sicrhau bod rhaglen arddangosfa MOSTYN a gweithgareddau LLAWN yn ymestyn eu cyrhaeddiad, a hefyd i holi sut mae gweithiau gan artistiaid yn cael eu profi, eu gweld a’u hystyried.

 

Mae ’T O N I G H T’ yn cyflwyno gwaith newydd gan yr artist Gwyn Williams, sy’n ymateb i gysyniad a chyd-destun y prosiect. Gan ddefnyddio meddalwedd recordio sgrîn, mae gwaith Williams yn ymestyn y defnydd o hiwmor i ddadansoddi’n adeiladol berthynas cymdeithas â’r byd gan ddefnyddio ffraethineb fel lens sy’n caniatáu inni edrych ar y cymdeithasol a’r gwleidyddol gyda’i gilydd mewn modd sydd yn amharchus ond eto’n deimladwy ar yr un pryd.

 

Ochr yn ochr â’r prosiect cyflwynir sgwrs rhwng Gwyn Williams ac Adam Carr (Curadur Rhaglen y Celfyddydau Gweledol MOSTYN),  lle byddant yn cyfnewid syniadau ynghylch ’T O N I G H T’ a’i gyflwyniad, a fydd ar gael fel testun ar wefan MOSTYN: www.mostyn.org

 

Gair am Gwyn Williams:

Ganed Williams yn 1980, ac mae’n byw ac yn gweithio yng Nghlwt-y-bont. Mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd, gan gynnwys rhai yn G39, Caerdydd; Oriel Myrddin, Caerfyrddin; Phillips de pury, Llundain; Eisteddfod Genedlaethol, Rhuthun; Hackney Picturehouse, Llundain; a Chanolfan Chapter, Caerdydd.

 

Addas ar gyfer: pob oedran

www.mostyn.org

Manylion

Trefnydd

Mostyn with Gwyn Williams