Yn ei bumed arddangosfa symudol yn The Studio, 23 Stryd Augusta, Llandudno, LL30 2AD mae Emrys Williams yn cyflwyno “Paul Cézanne Painted Mount Snowdon From This Spot”, arddangosfa a drefnwyd gan Gordon Dalton
Mae’r arddangosfa yn seiliedig ar hanes ymweliad dychmygol Paul Cézanne, yr arlunydd Argraffiadol â Gogledd Cymru a’i ddymuniad i beintio darlun o’r Wyddfa ond yna, yn lle hynny, ei fod wedi penderfynu peintio darlun o Fynydd Provence yn Aix (sy’n rhan o gasgliad Oriel Genedlaethol Cymru); defnyddiwyd y syniad hwn fel sail i estyn gwahoddiad i ddetholiad o arlunwyr o Gymru a’r DU i ddod i Landudno i archwilio tirluniau Gogledd Cymru ac arddangos ymarfer gorau ym maes peintio.
Mae’r sioe yn bwrw golwg ar fytholeg, arwraddoliaeth, hanes celfyddyd (ffaith a ffuglen) ac yn mynd â ni i fannau gwirioneddol a dychmygol.
Mae Gordon Dalton yn artist, yn guradur ac yn awdur sy’n gweithio yng Nghaerdydd.
Artistiaid ; Lara Davies, Paul Housely, Ben Risk, Phil King, Kiera Bennet, Henny Acloque, Bruce Asbestos, Tom Pitt, Paul Becker, Gordon Dalton.
Ceir arddangosiad preifat o “Paul Cézanne Painted Mount Snowdon From This Spot” ar ddydd Gwener 15 Medi, 6:00pm – 9:00pm. Yna bydd yr arddangosfa yn agored rhwng 12:00pm a 5:00pm yn 23 Stryd Augusta ar ddydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Medi. Bydd Sgwrs gan yr Artistiaid hefyd am 1:00pm ar ddydd Sadwrn, 16 Medi
Mae’r arddangosfa hefyd yn agored ar ddydd Iau a dydd Gwener ( 21st, 22nd,28th, 29th Medi) rhwng 1:00pm a 5:00pm ac ar benwythnosau drwy drefniant; e-bostiwch Emrys i emrys.w@ntlworld.com