Act of Strangers

Darn o ddawns chwareus a chorfforol fywiog sy’n cael ei pherfformio ar fainc parc.

Trwy sgyrsiau digrif, chwaraëusrwydd a gwaith cyffwrdd beiddgar, mae stori deimladwy am gyfeillgarwch yn cael ei hadrodd, gan ddangos potensial gwych y dieithryn sy’n sefyll wrth eich ymyl.

Wedi’i chyflwyno gan Chloe Loftus Dance. Comisiynwyd gan Articulture, gyda Wales Outdoor Arts Commissioning Consortium. Cefnogir gan Arts Council Of Wales.

15 munud

Perfformiadau am 12.30yh / 2.45yh / 4.45yh Sad 24 a Sul 25 Medi ar y Promenâd.