Brocforynion

Brocforynion

Kitsch & Sync Collective

Wele’r rhianedd anniben wedi’u golchi i’r lan, yn hudo’r morwyr y llongddrylliadau gyda’u seiniau llesmeiriol, mwll…

“Hoswch am funud fach cariad, ti’n siarad amdanon ni neu be??”

Dydy’r morforynion yma ddim byd tebyg i’r rhai a welwch chi mewn chwedlau! Maen nhw’n genod bowld – gwyliwch rhag ofn ichi gael eich bachu! Disgwyliwch yr annisgwyl… tonau dan y tonnau, morloi mewn Tmabolgampau… opera octopws a llawer mwy!… perfformiad dawns gomedi llawn hwyl i’r teulu… cofiwch, peidiwch â bwydo’r anifeiliaid merchetaidd hyn, efallai’u bod nhw’n brathu!!!

Photo Dan Green