Bicycle Ballet

Mae Blazing Saddles eich angen chi!

Holl ethos balet beics ydy eich cael ar gefn beic a chael hwyl!

Ar gyfer LLAWN, rydyn ni’n edrych am bobl i ddod i ymarfer ddiwedd pnawn Sadwrn yn Llandudno, lle gewch eich dysgu sut i reidio’n hyderus a dysgu rhai symudiadau syml sydd wedi’u llunio ar gyfer y sioe.

Ar ddydd Sul, fe gewch gyfle arall i ymarfer cyn cychwyn ar eich antur perfformio – gyda phicnic ardderchog ar y ffordd!

Am fwy o wybodaeth ac i ddatgan eich diddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost at llawnbikes@gmail.com

Mae Blazing Saddles gan Bicycle Ballet yn berfformiad crwydrol unigryw am ddillad, rhyddid merched a beiciau! Gan esblygu o goreograffi cyfoes, mae’r sioe yn defnyddio symudiadau, hiwmor, clownio, gwisgoedd a chacennau i adrodd stori grŵp o ferched sy’n cael eu dal yng nghyffro teithio, rhyddid ac annibyniaeth.

Manylion

  • Saturday 14th – 3 to 5pm public rehearsal
  • Sunday 15th 10 to 12pm rehearsal, 1.30 to 3.30 performance
  • Roaming performance
  • Get Involved!
  • Starts at Venue Cymru
  • www.bicycleballet.com