BOON SHY

Boon Shy: Tim Bromage

Mae gwaith Tim Bromage yn cynnwys elfennau o nifer o wahanol feysydd o ddiddordeb, megis cerddoriaeth werin a hud a lledrith y llwyfan. Mae props a gwisg yn cyfuno gyda chân, testun a gweithgareddau eraill i greu defodau od. Wedi’i osod o fewn y cyd-destun yma , mae’r effaith hudol yn dod yn fodd o arddangosiad symbolaidd, gan greu naratifau sy’n aml yn cyfeirio at chwedlau a hanesion diwylliannol ei amgylchoedd. Mae’r perfformiad newydd hwn yn parhau gyda chorff o waith sy’n cael ei ysbrydoli gan draddodiadau’r perfformiadau adloniadol a fu’n gymaint rhan o dirwedd ddiwylliannol Llandudno’r dyddiau gynt.

Manylion

  • Lle: Promenad
  • Pryd: Dydd Gwener, Dydd Sadwrn & Dydd Sul
  • Amser: 11.00 – 17.00 pob dydd
  • Comisiwn yr wyl

Lleoliad