Comisiynwyd Boudicca gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC).
Mae cysyniad y sioe yn seiliedig ar y “walkabout” ond mae’r fersiwn hon
yn cynnwys sgwteri symudedd wedi’u haddasu’n fecanyddol a’u haddurno’n hardd – “wheelabout” nid “walkabout”, felly.
Bydd cerbyd rhyfel a che yl mecanyddol Boudicca yn rhyngweithio â phlant ac oedolion fel ei gilydd. Mae hi’n chwilio am ddilynwyr i ymuno â’i byddin – ac yn chwilio hefyd am Rufeiniaid i’w ‘Cosbi’.
Bydd Boudicca yn marcio’i byddin o blant ac oedolion ag arwyddlun glaslys (paent wyneb), ac yn barnu ‘Rhufeinrwydd’ pobl eraill, cyn cyhoeddi ei dedfryd.