Atgof Ogof

Atgof Ogof

Guillermo Weickert a Maria Cabeza de Vaca

Ar gyfer yr ŵyl eleni, rydym am gyflwyno lleoliad newydd diddorol, sef Ogof yr Eliffant yn Y Fach. Yn y comisiwn hwn yn LLAWN03 fe welir y ddeuawd Sbaenaidd ddeinamig, Guillermo Weickert a Maria Cabeza de Vaca yn creu perfformiad dawns a fydd nid yn unig yn dwyn ysbrydoliaeth o gysylltiadau’r Gogarth â’r Oes Efydd, ond hefyd ei chynhanes a Phobl Neolithig, gyda rhyw gyfeiriad doniol Neanderthalaidd at yr hen glasur mursenaidd ‘One Million Years BC ‘.

Manylion

  • Pwy: Guillermo Weickert & Maria Cabeza de Vaca
  • Lle: Ogof yr Eliffant yn Y Fach
  • Pryd: Dydd Sadwrn 13.30, 15.00 & 16.00
  • Pryd: Dydd Sul 14.00, 15.30 & 16.30
  • Gall y llwybr sy’n arwain at Ogof yr Eliffant fod yn wlyb, yn anwastad ac yn llithrig. Gwisgwch esgidiau cerdded call a gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwisgo’n addas ar gyfer digwyddiad mewn ogofâu oer.
  • Gwefan: guillermoweickert.com

Lleoliad