CHILD’S CINEMA

Child’s Cinema : Catrin Doyle

Profiad sinema ryngweithiol y gall plant eu gweithredu’u hunain.

Mae casgliad Sinema Plentyn yn cynnwys pedwar darn:-

  1. Y ‘Phasmatrope’; dehongliad o’r ddyfais Fictoraidd wreiddiol a oedd yn cyfuno söetrop gyda thafluniadau’r ‘Llusern Hud’. Mae’r lluniau symudol yn eich tywys nôl i blentyndod yn Llandudno slawer dydd.
  2. Söetrop â phŵer beic: wedi’i wneud allan o rannau beic wedi’u hailgylchu, mae’r peiriant hwn yn gwbl ryngweithiol, gyda’r ‘ffilm’ yn datgelu’i hun wrth ichi bedalu! Cyfle i weld animeiddio ar waith.
  3. Y Deial-a-trop: söetrop miniatur ar ymyl eich steil ffôn cylchdro retro clasurol, sy’n datgelu’i hun wrth ichi ddeialu. Yn gweithredu hefyd fel gosodwaith sain, gan fod y set law wedi’i wifro am sain.
  4. Cadair freichiau fyw: Darn clasurol hyfryd o ddodrefn gyda chyfwisgoedd melfedîn, sy’n datgelu, o edrych yn graffach arnyn nhw, eu bod yn animeiddiadau llyfr troi ar ffurf fechan

Manylion

  • Lle: Promenad
  • Pryd: Dydd Gwener, Dydd Sadwrn & Dydd Sul
  • Amser: 11.00 – 17.00 pob dydd
  • Hwyl i bawb o’r teulu
  • Rhyngweithiol

Lleoliad