Eleanor And Flora Music

Dawnslunio gan Eleanor Sikorski a Flora Wellelsey Wesley.

Cysyniad a chyfarwyddyd gan Jonathan Burrows a Matteo Fargion.

“…maent yn ddeallusol chwilgar, yn ddoniol a digywilydd, yn meddiannu talentau llwyfan cameieonaidd ac yn barod i fentro.” The Guardian

Daw’r dawnswyr di-flewyn-ar-dafod Eleanor Sikorski a Flora Wellesley Wesley, AKA Nora, a throsiad beiddgar newydd o waith Morton’s FeldmanFor John Cage, i’r llwyfan, ffynhonnell yr eiconig Both Sitting Duet (2002, cafodd ei berfformio fel rhan o LLAWN03) gan Burrows a Fargion. Maent yn ailfeddwl y gwaith blaenorol fel perfformiad safadwy sy’n adeiladu cerddoriaeth fud o dirwedd ystumiol cyffyrddiad glòs. Mae Eleanor And Flora Music am yr ailddaganfod a’r datguddiad sy’n gynhenid mewn gweithredoedd o drawsfudo, a’r cyfodiad o dawnsluniau newydd sy’n dod o ymarferion cyfunol.

www.noramoves.com

37 munud

Perfformiad am 2.00yh Sad 24 a Sul 25 Medi yn yr Embassy Ballroom yng Ngwesty’r Queens, gyferbyn y prom.