Electromechanical Lithophone

Gosodiad gan yr artist Jay Harrison yw Electromechanical Lithophone sy’n gwahodd y gynulleidfa i gamu i mewn ac i brofi’r offeryn taro o’i rombil. Mae’n cynnwys 24 o glochfarrau a grefftwyd o Lechen Werdd Gogledd Cymru a threfnwyd y bariau mewn cylch llydan wedi eu gosod ar unedau sy’n galluogi perfformiad cerddorol electrobeiriannol ymreolus. Mae’r gosodiad hefyd yn ryngweithiol; gwahoddwyd aelodau o’r gynulleidfa i chwarae’r Lithophone gan ddefnyddio bysellfwrdd piano electroneg sydd yn gorwedd yng nghanol yr offeryn.

Dewch i chwarae y Electromechanical Lithophone 9:00yb-5.30yh Sad 24 Medi a 11.00yb-4.30yh Sul 25 Medi yn y Canolfan Fictoria.