Ioana Pioaru

Details

Cyfres gyfredol o bortreadau holograffig ydy Spectral Figures, sy’n darlunio artistiaid ac athronwyr ddylanwadodd ar waith yr artist Ioana Pioaru.

Ar gyfer LLAWN, mae Ioana yn arddangos ‘Spectral Figure #4’,  portread o’r athronydd o Ffrainc, Gilles Deleuze. Disgrifia Ioana’r gweithiau yn y gyfres ‘darluniau cerfluniol’ sy’n cael eu creu mewn realiti rhithiol ac yna’u hargraffu fel hologramau digidol acromatig. Dyma ddull gwreiddiol a ddatblygwyd gan Pioaru yn ystod ei hymchwil doethuriaeth ac yn fodd o bontio rhwng y rhithiol a’r real trwy gynnig y posibilrwydd o arddangos gweithiau celfyddydol VR y tu allan i ofod VR, heb yr angen am benset.