JAMES RIELLY yn sgwrsio gydag EMRYS WILLIAMS

JAMES RIELLY yn sgwrsio gydag EMRYS WILLIAMS

image

I nodi agor ei arddangosfa, ‘Tŷ Hyll’ yn Y Stiwdio yn Stryd Augusta, Llandudno a’i osodwaith o animeiddiadau taflu yn Haus of Helfa, fe fydd James Rielly yn sgwrsio gydag Emrys Williams.

Ganwyd James Rielly yng Nghaergybi, Ynys Môn, ym 1956; mae wedi arddangos yn helaeth yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yr arddangosfa bondigrybwyll Sensation yn yr Academy Gelf Frenhinol. Fe welir ei waith mewn sawl casgliad cyhoeddus enwog gan gynnwys Oriel y Tate, Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Oriel Genedlaethol yr Alban o Gelfyddyd Fodern ac FNAC, Ffrainc.

Mae ei waith yn dwyn y syllwr i mewn i ffuglenni amwys neu naratifau anghymwys, wedi’u seilio’n bennaf ar storïau a delweddau a ddetholwyd o erthyglau papurau newydd. Mae eu symlrwydd ymddangosiadol wedi’i danseilio gan ryw synnwyr o anesmwythdra, tanseiliad o rolau teuluol, rhyw awgrym o’r camweithredol trwy eu portreadau yn cyfleu plant yn ymddwyn fel oedolion a/neu oedolion yn ymddwyn fel plant.

Mae Casual Influences yn canolbwyntio ar blant, ystrydebau llyfr lluniau tanseiliol pwyllog o berffeithrwydd.

Efallai fod y bachgen bach mewn peintiad yn edrych fel y plentyn delfrydol mewn llyfr plant, portread ysgol, neu beintiad Plentyn ond mae ei osgo wrth iddo smygu ffug-smwgyn wedi’i fodelu’n berffaith o fyd y bobl mawr rydyn ni oll, fel plant, yn dyheu am fod yn rhan ohono. Mae peintiadau eraill yn y gyfres hon yn darlunio bachgen gyda dannedd ysgithrog, merch mewn gwisg ci yn dangos ei thafod, tra bo eraill yn cyfleu parau o blant – efeilliaid neu ddyblau efallai, sy’n thema gylchol yng ngwaith Rielly.

Mae ei ddefnydd o hiwmor hefyd yn rhan o draddodiad darluniadol a diwylliannol lle gall dychan a’r grotesg weithredu fel falf bwysedd i densiynau cymdeithasol. “Dydw i ddim yn artist gwleidyddol,” meddai Rielly, “ond dwi’n gwatwar rhai pethau, grym, perthnasoedd mewn teuluoedd, y cyfyngiadau sy arnon ni, y rôl y’n gorfodir i’w chwarae, hunanaddoliad o unrhyw unigolyn sy am fod yn eithriadol.”

Fe ddelir y syllwr mewn bwlch lledawgrymog anesmwyth – rhwng yr hyn  welwn a’r hyn rydyn ni’n meddwl y gwelwn ni, yr hyn a wyddom am ein bywydau ein hunain, ein teuluoedd ein hunain a’r hyn na wyddom  am fywydau eraill. Yr union amwysedd hwn sy yn fynych wedi arwain at anghydfod yn y cyfryngau ynghylch gwaith Rielly.

Manylion

  • Lle: MOSTYN
  • Pryd: Dydd Sadwrn
  • Amser: 13.00

Lleoliad