Môr, Tywod a Thristwch

Mae Tonnau, Tywod a Thristwch (Sea, Sand and Sorrow) yn gyfle i fwynhau darlleniadau o farddoniaeth yn Nhŷ Coffi yn Stryd Mostyn.

 

Bydd y ferch feiddgar o Salford, Steph Londsdale, yn darllen ei cherddi o’r galon, cerddi cwbl orfoleddus, angerddol a chyfoes, sy’n adlewyrchu ei sylwadau ar bopeth yn y bôn. Yn bersonol a pherthnasol, mae cerddi Steph yn ffres, yn gynhyrfus ac yn werth eu clywed!

 

Ddeudodd rhywun rhywdro bod Dylan Thoams yn feddw ar iaith yn ogystal ag ar whisgi – tybed a ydy’r bardd lleol, Glyn Edwards, wedi bod yn llymeitian o’r un gostrel? Lansiwyd casgliad cyntaf o gerddi Glyn, Vertebrae, yr haf hwn, gan dderbyn croeso llawn brwdfrydedd a rhethreg.

Mae’r awen yn tarddu’n ddwfn o’i fewn, yn archwilio profiadau, natur a bywydeg gyda thinc bach o neo-ramantiaeth.

Details

  • SADWRN 14ydd
  • 6-7pm
  • Providero Coffee House
  • Heyfyd – Arddangosfa Jan Gardner