Tŷ Wylo

Tŷ Wylo

Eli Acheson-Elmassry

Mowld latecs medal, lliw cwrel o flaen cartref Eli ar Ynys Môn ydy ‘Tŷ Wylo’. Daeth y syniad o arbrofion yr artist wrth gymryd gwasgargraffiadau o eitemau o bwys iddi hi a chreu ystyr o ran cyd-destun pob cyswllt. Roedd hi am archwilio’r cysyniad o gartref ac aelwyd, sy’n crynhoi cymaint mwy i ni na all tŷ cyffredin ei gyfleu.

Ar gyfer LLAWN03, caiff croen ei chartref ei ddal uwchben iard gefn gwesty Castell Tudno. Bydd gan Tŷ Wylo rhyw ddialog rhyfedd, symbolaidd ac addas rhywsut gyda’r hen westy anghyfannedd gerllaw, sy ar fin ei ddymchwel yn rhannol.

Manylion

Sponsor

Lleoliad