STORE

Migrations : Store

Siop ydi STORE. Busnes ydi celfyddyd. Dewch i brynu perfformiadau!

Dyma ichi brofiad siopa nad cheir mo’i debyg . Be gymrwch chi syr? Madam? Mae ‘na ddigon o ddewis ar ein silffoedd.

O fynd i mewn i STORE, fe gewch wadd i bori trwy arlwy o dros drigain mini perfformiad. Gwnewch eich dewis, ac yna gwyliwch wrth i’ch pryniant gael ei berfformio’n arbennig i chi.

Mae STORE yn brofiad cwbl unigryw wrth i’r artistiaid Awstriaidd a Siapaneaidd, Matsune a Subai , chwarae’n gellweirus gyda’r syniad am fusnes cadwyn lwyddiannus.

Mae prisiau’n cychwyn gyda 50c – mae celfyddyd o fewn cyrraedd dant a phoced pawb.

Gyda dros ddwsin o allfeydd byd-eang yn cynnwys Vienna, Paris, Kyoto ac Efrog Newydd, mae STORE bellach yn dod i Landudno – ewch i brynu bargen!

Dyma ddwêd rhai o siopwyr blaenorol STORE

  • “Absolutely amazing. My face hurts from smiling so much!”
  • “The guys are hilarious!”
  • “Bloody fantastic, I’m coming every day.”
  • “Absolutely brilliant fun, loving it.”
  • “Store is an utterly brilliant unique concept. Brilliant stuff.”

Manylion

  • Lle: 92 Stryd Mostyn 
  • Pryd: Dydd Gwener, Dydd Sadwrn & Dydd Sul
  • Amserau: Dydd Gwener & Dydd Sadwrn 10.30 – 16.30, Dydd Sul 10.30 – 15.00

Lleoliad